Quantcast
Channel: Wales Blog Awards » nominations
Viewing all articles
Browse latest Browse all 2

Wales Blog Awards announce prestigious prize for the People’s Choice

0
0

As the Wales Blog Awards enters its last week of nominations, the competition has announced a prestigious new prize for the winner of this year’s ‘People’s Choice Award’.

The winner of the category will receive national media exposure across Wales as a guest blogger for WalesOnline.

The winning blog, as voted by the public, will have four columns published on the lifestyle opinion section of the website, as recognition of their outstanding work.

The People’s Choice Award is voted for by members of the public from a shortlist of finalists across all of the Wales Blog Awards categories, as selected by the judging panel.

To be eligible to win the award and have your blog featured on WalesOnline you can enter here

The deadline for entries is 5pm on Friday 28th February.

MediaWales’ Online Correspondent Lorna Doran said: “We’re incredibly pleased to be able to offer this prize for the winner of the People’s Choice award. It’s a fantastic category because it lets members of the public chose the one blog in Wales that they love to read above all others, and you can’t get a better recommendation than that.

“The awards have grown so much over the last four years that it seems really fitting for us to showcase the ‘People’s Choice’ blog and give them the recognition they deserve.”

Warwick Emanuel PR set up the Wales Blog Awards in 2010 and organises them in conjunction with Media Wales. The company sees the event as a way to support and encourage everyone who wants to write and publish online the things about which they feel passionate.

Cardiff-based Warwick Emanuel PR was set up in 2001 by business partners Elizabeth Warwick and Wynford Emanuel. The company specialises in the energy, utility, social housing and business to business sectors.

_______________________________________________________________________

Mae Gwobrau Blogio Cymru yn cyhoeddi gwobr fawreddog ar gyfer Dewis y Bobl

Wrth i Wobrau Blogio Cymru ddechrau ar ei hwythnos olaf o enwebiadau, mae’r gystadleuaeth wedi cyhoeddi gwobr newydd fawreddog i enillydd ‘Gwobr Dewis y Bobl’ eleni.

Bydd enillydd y categori yn derbyn cyhoeddusrwydd cenedlaethol yn y cyfryngau ledled Cymru fel blogiwr gwadd i Cymru Ar-lein.

Bydd y blog buddugol, fel y pleidleisiwyd arno gan y cyhoedd, yn cael pedair colofn wedi’u cyhoeddi yn adran ‘barn am ffordd o fyw’ y wefan, fel cydnabyddiaeth o’i (g)waith arbennig.

Aelodau’r cyhoedd sy’n pleidleisio dros Wobr Dewis y Bobl, o restr fer o ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd cylch terfynol y gystadleuaeth ledled holl gategorïau Gwobrau Blogio Cymru, fel a ddewiswyd gan y panel dyfarnu.

I fod yn gymwys i ennill y wobr a chael eich blog wedi’i gynnwys ar Cymru Ar-lein, gallwch roi’ch enw gerbron i ymgeisio yma www.walesblogawards.co.uk

Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yn y gystadleuaeth yw 5yp ddydd Gwener, yr 28ain o Chwefror.

Dywedodd Gohebydd Cyfryngau Cymru Ar-lein, Lorna Doran: “Rydym yn hynod falch o fod yn gallu cynnig y wobr hon i enillydd gwobr Dewis y Bobl. Mae’n gategori rhagorol oherwydd ei fod yn gadael i aelodau’r cyhoedd ddewis y blog yng Nghymru y maent wrth eu boddau’n ei ddarllen yn anad unrhyw flog arall, ac ni allwch gael gwell cymeradwyaeth na hynny.

“Mae’r gwobrau wedi tyfu cymaint dros y pedair blynedd diwethaf fel ei fod yn ymddangos yn wirioneddol addas inni roi lle amlwg a theilwng i flog ‘Dewis y Bobl’ a rhoi’r gydnabyddiaeth iddynt y maent yn ei haeddu.”

Cwmni Cysylltiadau Cyhoeddus Warwick Emanuel PR a sefydlodd Wobrau Blogio Cymru yn 2010 a hwy sydd yn eu trefnu ar y cyd â Cyfryngau Cymru. Gwêl y cwmni y digwyddiad fel ffordd o gefnogi ac o annog pawb y mae arno/arni eisiau ysgrifennu a chyhoeddi ar-lein y pethau y maent yn teimlo’n angerddol drostynt.

Sefydlwyd Cwmni Cysylltiadau Cyhoeddus Warwick Emanuel PR, a leolir yng Nghaerdydd, yn 2001 gan y partneriaid busnes Elizabeth Warwick a Wynford Emanuel. Mae’r cwmni’n arbenigo yn y sectorau ynni, cyfleustodau, tai cymdeithasol a’r sector busnes i fusnes.


Viewing all articles
Browse latest Browse all 2

Latest Images

Trending Articles





Latest Images